Bethan Semmens

Unawdydd, Cerddor Siambr & Telynores Cerddorfaol

Yn wreiddiol o Gaerdydd, astudiodd Bethan ei gradd Baglor mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru tan diwtoriaeth Caryl Thomas. Tra yno, derbyniodd wobr Daniel Emlyn Davies. Wedi cyflawni ei gradd yng Nghaerdydd yn 2011, aeth Bethan ymlaen i astudio am ei gradd Meistr mewn Perfformiad gyda Ieuan Jones a Stephen Fitzpatrick yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Llundain ac Universität Mozarteum yn Salzburg, lle cafodd gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Carne a gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru.  Wedi graddio gyda ragoriaeth yn 2013, mae Bethan wedi datblygu ei gyrfa yn y DU fel unawdydd, cerddor siambr a thelynores cerddorfa.

 

Hyd yn hyn, mae uchelfannau Bethan yn cynnwys comisiynu darn i’r delyn a chôr a berfformiwyd yn y 14edd Gynhadledd Telyn y Byd yng Nghaerdydd; cychwyn partneriaeth gyda Phafiliwn Pier Penarth i gyflwyno cyfres o gyngherddau cerddoriaeth siambr; perfformio fel unawdydd ac fel rhan o ddeuawd yng Ngŵyl Gerdd Tŷ Ddewi, Gŵyl Gerdd Ryngwladol Abergwaun a Gŵyl Gerdd Gregynog; a hefyd ei chyfraniad i gynllun blaenllaw Live Music Now dros y ddeuddeng mlynedd ddiwethaf. Er hyn, ei hoffter angerddol yw ei chyfraniad  cerddorol pan yn chwarae mewn cerddorfa – mae’n perfformio’n rheolaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonietta Prydeinig, Cerddorfa Symffoni Lloegr a Cherddorfa Novello.

General enquiries

+44 (0) 7814 221 310

enquiries@bethansemmens.com

FacebookTwitterLinkedIn

La Source by Albert Zabel, performed by B. Semmens.

© 2024. Hawlfraint Bethan Semmens Ltd. Rydym yn gwmni cyfyngedig sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 15422424.